Daearyddiaeth Mali

Map o Fali

Gwlad fawr yng Ngorllewin Affrica yw Mali, sy'n ffinio ag Algeria i'r gogledd, Senegal a Mauritania i'r gorllewin, Gini i'r de-orllewin, Bwrcina Ffaso ac Arfordir Ifori i'r de, a Niger i’r dwyrain.

Pysgota ar Llyn Sélingué

Mae Mali yn wlad gyfandirol, heb fynediad i'r môr. Mae rhan helaeth o ogledd a chanolbarth y wlad yn dir anial, sy'n rhan o Anialwch y Sahara; yn y de ceir tir savannah sych (sy'n rhan o'r Sahel) a choedwigoedd trofaol. Mae bywyd gwyllt y de yn atyniad twristaidd heddiw. Mae Afon Niger yn rhedeg ar draws y wlad fel bwa o'r gorllewin i'r dwyrain ac mae'r prif drefi i'w cael ar hyd ei glannau. Rhwng Ségou a Tombouctou mae'r afon yn troi'n ddelta dŵr croyw sylweddol gyda gwelyau alwfial.

Mae dros 90% o'r boblogaeth yn byw yn y canolbarth a'r de. Ar wahân i'r brifddinas Bamako, y prif drefi a dinasoedd yw Sikasso, Ségou, Mopti, Tombouctou (Timbuktu), Gao a Tessalit.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy